DDEWISLEN

Rydym ni eisiau deall sut beth yw bod yn ofalwr, neu angen gwasanaethu gofal a chymorth, i bobl. I wneud hyn, mae angen i ni glywed eich straeon, a chreu darlun o brofiadau ledled Cymru. Bydd eich straeon chi'n ein helpu i wybod beth allai gael ei wneud yn wahanol, a beth sy'n gweithio'n dda iawn.  ***Cysylltwch a Katie i drefnu galwad Zoom, WhatsApp neu ffon i rannu eich stori - katie.cooke@southwales.ac.uk / 07964 407 739***

Beth fyddwch chi'n ei wneud â'm stori?

Bydd eich storin' dweud mwy wrthym am ofal cymdeithasol, a bydd yn cynhyrchu data i ni a fydd yn ein helpu i weld patrymau ym mhrofiadau pobl. Byddwn ni'n rhannu hyn gyda Llywodraeth Cymru er mwyn iddyn nhw gael gwell dealltwriaeth o effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. A byddwn ni'n ei rannu â gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol, sefydliadau a phobl ledled Cymru i helpu i roi siâp ar y modd y darperir gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Siarad ag un o'n Gwrandawyr

Story gathering

 

Rydym ni'n gweithio gyda sefydliadau ledled Cymru i greu rhwydwaith o Wrandawyr. Mae'r rhain yn bobl sy'n gallu siarad â chi, clywed eich stori a'ch helpu i'w rhannu gyda'r prosiect.

Os ydych chi'n rhan o sefydliad sy'n cefnogi pobl, neu os ydych chi'n mynychu grŵp cymdeithasol, clwb neu weithgaredd, gallwn ddod i ymweld a chi i glywed eich straeon.

Os hoffech wybod mwy am hyn, cysylltwch â Katie os gwelwch yn dda, gan ddefnyddio'r ffurflen ar waelod y dudalen, neu cysylltwch yn uniongyrchol â hi Email Katie.

 

Dywedwch eich stori wrthym eich hun

Citizens' jury

 

Gallwch rannu profiad gyda ni eich hunan drwy gwblhau arolwg SenseMaker. Mae'r arolwg yn gofyn i chi adrodd stori drwy ei theipio, ac yna rhoi teitl iddi ac ateb cwestiynau am y stori.

Mae'r cwestiynau'n ymwneud â'ch profiad ac yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o sut roedd y profiad hwnnw'n teimlo i chi Nid oes y fath beth ag atebion cywir neu anghywir, a bydd modd cwblhau'r arolwg cyfan ymhen rhwng 10 a 30 munud, gan ddibynnu faint fyddech chi am ei ddweud wrthym.

Gallwch ofyn i ffrind neu aelod o'r teulu i roi help llaw i chi os dymunwch, ac mae Canllaw Cyflym ar ein tudalen Adnoddau os oes unrhyw beth yn ddryslyd. Os yw'n well gennych lenwi copi papur, gallwch argraffu un oddi ar ein tudalen Adnoddau, neu cysylltwch â Katie i wneud cais am un.

Beth nesaf?

Time credits

 

Rydym yn mynd i ddewis rhai o'r materion pwysicaf sy'n dod allan o'r straeon, i edrych arnynt yn agosach yn haf 2020. Byddwn yn cynnal Rheithgor Dinasyddion i wneud hyn..

Bydd Rheithgor Dinasyddion yn dod â grŵp o 12 i 15 o bobl ynghyd i graffu ar gwestiwn allweddol a allai lunio polisi, ac o ganlyniad, sut y darperir gwasanaethau. Bydd y Rheithgor yn holi tystion, yn archwilio tystiolaeth ac yna'n gwneud argymhellion.  Darperir cymorth drwy gydol y broses i sicrhau fod pawb yn gyffyrddus ac yn gallu ymuno yn y broses.

Byddwn yn postio diweddariadau am y Rheithgor drwy gydol 2019. Gallwch ddod o hyd i'r adroddiad gan ein Rheithgor 2018 ar y dudalen Adnoddau.